Edrych yn ôl. Edrych ymlaen.
Mae Mozilla'n bodoli i hyrwyddo gweithio'n agored, arloesi a chynnig cyfle i bawb ar y rhyngrwyd.
Dewch i edrych yn fanylach ar bwy rydym, gan gynnwys ein llwyddiannau mwyaf a'n cerrig milltir.
-
01
Lansiwyd Prosiect Mozilla yn Netscape ar 31 Mawrth, 1998, i gynnig dewis i ddefnyddwyr a hyrwyddo arloesedd ar y We.
-
02
Yn falch o fod yn ddim-er-elw, mae Mozilla yn gwneud cynnyrch fel Firefox gyda chenhadaeth i gadw grym y We yn nwylo defnyddwyr ym mhob man.
-
03
Dangosodd mwy na 10,000 o gyfranwyr eu cefnogaeth i'n cenhadaeth drwy dalu am hysbyseb tudalen lawn yn The New York Times ar ddiwrnod lansio Firefox 1.0 yn 2004.
-
04
Heddiw mae gan Mozilla gyfranwyr ar bob cyfandir, gan gynnwys Antarctica (lle mae Firefox yn cael ei ddefnyddio gan 80% o'r boblogaeth).
-
05
Mae Ychwanegion Firefox yn eich galluogi i gyfaddasu a chymryd rheolaeth o'ch profiad ar y We. Mae dros 4 biliwn o ohonynt wedi cael eu llwytho i lawr gan ddefnyddwyr hyd yma.
-
06
Mae Mozilla yn arwain ar sicrhau preifatrwydd ar-lein gyda datblygiadau arloesol mewn porwyr fel Dim Tracio a Lightbeam sy'n cynnig mwy o reolaeth i chi dros eich data personol.
-
07
Mae ein cymuned fyd-eang wedi helpu cyfieithu Firefox i dros 70 o ieithoedd, fel bod y porwr ar gael i fwy na 90% o boblogaeth y byd.
-
08
Yn 2008, roedd 8,002,530 o bobl wedi dewis Firefox mewn un diwrnod i greu Record Byd Guinness am “Y Rhaglen Feddalwedd a Lwythwyd i Lawr Fwyaf mewn 24 awr.”
-
09
Gŵyl Mozilla yw ein digwyddiad blynyddol mwyaf, gan ddod â channoedd o feddyliau creadigol i wireddu grym a photensial mawr y We.
-
10
Mae Mozilla Webmaker yn gweithio i greu planed mwy Gwe-lythrennog, gan ddarparu offer a phrosiectau i helpu pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau ar-lein.
-
11
Mae Firefox Android yn do â phrofiad pori bwrdd gwaith Firefox i ffonau a thabledi. Ar gael o Google Play, mae wedi cael ei lwytho i lawr mwy na 80 miliwn o weithiau.
-
12
Mae Rhwydwaith Datblygwr Mozilla yn adnodd Gwe sy'n cael ei yrru gan y gymuned sy'n darparu'r ddogfennaeth, sesiynau tiwtorial a'r offer gorau ar gyfer mwy na 2 filiwn o ymwelwyr bob mis.
-
13
Mae Mozilla'n gweithio i ddiogelu'r We fel adnodd cyhoeddus sy'n cael ei rannu er budd pawb.
-
14
Yn 2013, lansiodd Mozilla Firefox OS i ryddhau grym llawn y We ar ffonau clyfar ac unwaith eto gynnig rheolaeth a dewis i genhedlaeth newydd o bobl sy'n dod ar-lein.
-
15
Mae'r gwaith mae Mozilla yn ei wneud yn bosibl diolch i ddegau o filoedd o noddwyr a gwirfoddolwyr unigol — pobl fel chi sy'n credu y dylai'r We aros yn agored ac ar gael i bawb.