Firefox Developer Edition

Wedi ei adeiladu ar gyfer y rhai sy'n adeiladu'r We

Dyma'r unig borwr sydd wedi ei wneud ar gyfer datblygwyr fel chi.

Firefox Developer Edition — Cymraeg

Efallai nad yw eich system yn cwrdd â gofynion Firefox, ond mae modd i chi brofi un o'r rhain:

Firefox Developer Edition — Cymraeg

Nid yw eich system yn cyrraedd y gofynion i redeg Firefox.

Nid yw eich system yn cyrraedd y gofynion i redeg Firefox.

Please follow these instructions to install Firefox.

Preifatrwydd Firefox
Firefox Developer Edition
  • Cynlluniwyd ar gyfer datblygwyr

    Yr unig borwr wedi ei greu ar gyfer datblygwyr, crëwyd Firefox Datblygwyr gyda golwg ar eich llif gwaith. Adeiladwch, profwch, cynyddwch a mwy o'r un fan, am y tro cyntaf.

  • Dadfygiwch unrhyw borwr

    Gallwch archwilio a dadfygio eich apiau ar unrhyw borwr neu ddyfais gyda Valence — estyniad pwerus sydd wedi ei rhagosod yn unig o fewn Firefox Datblygwyr.

  • Codio picsel perffaith

    Targedwch maint sgriniau gyda'r Golwg Cynllunio Ymatebol a newid eich CSS wrth weithio gyda'r Golygydd Arddull ar gyfer codio picsel perffaith.

Eich hoff offer datblygu a mwy

Mae Firefox Datblygwyr yn crynhoi eich prif offer datblygu mewn un man gyda rhai newydd pwerus fydd yn estyn eich gallu i weithio ar draws platfformau lluosog o un man. Mae'n bopeth rydych wedi arfer ag ef ond yn well. A dim ond gan Firefox.

  • Llun sgrin

    Offer Golygu Gweledol

    Gallwch olygu'n weledol animeiddiadau CSS ac HTML sy'n chwarae ar y dudalen o'r panel Archwiliwr. Mae modd gwirio aliniad, dimensiynau a phadio unrhyw elfen gan ddefnyddio'r offer Pren Mesur a Mesur.

    Dysgu rhagor am yr Offer Golygu Gweledol
  • Llun sgrin

    Heriwr Dev Tools

    Defnyddiwch offer animeiddio gweledol a golygu CSS Developer Edition i archwilio dyfnder y môr a rhyngweithio gyda'r creaduriaid rhyfeddaf.

    Defnyddiwch DevTools Challenger
  • Llun sgrin

    Offer Perfformiad

    Gallwch archwilio graddfa fframiau cynnwys gwe, y defnydd o gof a phroffil JS mewn golwg llinell amser cyfunol er mwyn adnabod a datrys problemau cyfyngiadau perfformiad.

    Dysgu rhagor am Offer Perfformiad
  • Llun sgrin

    Archwilydd Tudalen

    Archwilio HTML a CSS unrhyw dudalen Gwe a newid strwythur a chynllun tudalen yn hawdd.

    Dysgu rhagor am yr Archwilydd Tudalen
  • Llun sgrin

    Golygydd Sain Gwe

    Archwilio a rhyngweithio gydag API Sain Gwe'n fyw i sicrhau fod yr holl nodau sain wedi eu cysylltu yn y ffordd rydych yn ei ddisgwyl.

    Dysgu rhagor am Olygydd Sain Gwe
  • Llun sgrin

    Consol Gwe

    Gweld gwybodaeth wedi ei gofnodi'n gysylltiedig gyda thudalen gwe a defnyddio'r Consol Gwe i ryngweithio gyda thudalennau Gwe gan ddefnyddio JavaScript.

    Dysgu rhagor am y Consol Gwe
  • Llun sgrin

    Dadfygiwr JavaScript

    Camwch drwy god JavaScript ac archwilio neu newid ei gyflwr er mwyn olrhain gwallau.

    Dysgu rhagor am y Dadfygiwr JavaScript
  • Llun sgrin

    Monitor Rhwydwaith

    Gweld yr holl geisiadau rhwydwaith mae eich porwr yn ei wneud, faint o amser mae pob cais yn ei gymryd a manylion pob cais.

    Dysgu rhagor am y Monitor Rhwydwaith
  • Llun sgrin

    Golygydd Arddull

    Gweld a golygu arddulliau CSS sy'n gysylltiedig â thudalen Gwe, creu rhai newydd a gosod tudalennau arddull CSS i unrhyw dudalen.

    Dysgu rhagor am y Golygydd Arddull
  • Llun sgrin

    Golwg Cynllunio Ymatebol

    Gwelwch sut fydd eich Gwefan neu ap Gwe'n edrych ar sgriniau maint gwahanol heb newid maint ffenestr eich porwr.

    Dysgu rhagor am Olwg Cynllunio Ymatebol
  • Llun sgrin

    Valence

    Datblygwch a dadfygiwch eich apiau ar draws porwyr lluosog dyfeisiau gyda'r estyniad pwerus hwn sy'n dod wedi ei osod o fewn Firefox Datblygwr.

    Dysgu rhagor am Valence