Y Mozilla Leadership Network
Cysylltu Arweinwyr
Mae'r Mozilla Leadership Network yn rwydwaith fyd-eang o arweinwyr amrywiol - o weithredwr ifanc sy'n dysgu llythrennedd gwe i'w chymuned, i'r prif weithredwr sy'n arwain corff byd-eang - fydd yn sicrhau'r don nesaf o fynediad, cynhwysiad a chyfleoedd ar-lein.
Bydd arweinwyr yn y rhwydwaith hwn yn gweithredu gyda'i gilydd i sicrhau:
- Ystod a siâp agenda'r rhyngrwyd agored
- Modelu gwerthoedd a ymarfer ‘agored’ mewn sefydliadau, cynnyrch a pholisïau o amgylch y byd.
Sut rydym yn gweithio
Mae'r Mozilla Leadership Network yn cyflawni ei waith dwy ‘hybiau’ thematig, cymunedau o bobl sydd ag arbenigeddau amrywiol, sy'n helpu pobl eraill i adeiladu'r cynhwysedd i hyrwyddo'r Rhyngrwyd agored yn eu maes neu bwnc diddordeb.
Mae ein hybiau cyfredol yn cynnwys:
- Addysgu. Addysgwyr a llyfrgellwyr sy'n ymrwymedig i drawsnewid addysgu yn ein hoes ddigidol.
- Gwyddoniaeth. Ymchwilwyr a gwyddonwyr data sy'n ymroddedig i wneud ymchwil ac ymarfer yn fwy agored.
- Polisi ac Eiriolaeth Rhyngrwyd Unigolion a chyrff sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo materion Rhyngrwyd agored.
- Llythrennedd Merched a'r We. Trefnwyr cymunedol a rheolwyr uwch sy'n creu cyfleoedd ar gyfer merched i ddatblygu sgiliau gwe.
- Rhyngrwyd Pethau. Hacwyr a chynllunwyr yn creu deunydd arbrofol heriol am beth all a dylai'r Rhyngrwyd Pethau fod.
Ein Mentrau
Mae'r Mozilla Leadership Network yn hyrwyddo ein hamcanion drwy pum prif menter, sy'n cael eu hadlewyrchu ym mhob hyb.
- Cwricwla a Hyfforddiant. Rydym yn darparu cwricwla a rhaglenni hyfforddiant agored ac am ddim i gynorthwyo arweinwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau'r don nesaf o fynediad, cynhwysiad a chyfleoedd ar-lein. Esiampl: Y Modiwl Hyfforddiant Llythrennedd y We
- Partneriaethau Rydym yn cychwyn a thyfu partneriaethau sy'n galluogi Mozilla, ein cymuned a'n cynghreiriaid i uchafu eu heffaith. Esiampl: Gigabit Community Fund
- Galw Ynghyd. Rydym yn dod ag aelodau o'r Mozilla Leadership Network ynghyd, i ddysgu gan ei gilydd, cyfnewid syniadau ac ymuno a'i gilydd. Esiampl: MozFest
- Aelodaeth. Mae aelodau'n ymuno gan eu bod yn rhannu gweledigaeth Mozilla ac yn aros oherwydd y gymuned amrywiol a'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol unigryw cryf mae'r rhwydwaith yn ei greu. Esiampl: Cymrodoriaethau