Dim ond Firefox Android sy'n cynnig gymaint o ffyrdd o wneud
eich profiad o bori'r we yn unigryw i chi.
Y ffordd mwyaf ymaddasol o rannu unrhyw beth, bydd Rhannu Cyflym yn cofio'r apiau wnaethoch chi eu defnyddio'n ddiweddar i gyfathrebu'n effeithiol.
Gweld sut mae'n gweithio
Cyfaddaswch eich panel Cartref gydag unrhyw gynnwys Gwe a mynediad at eich hoff lif — fel Instagram a Pocket Hits — yn syth.
Gweld sut mae'n gweithio
Dangos eich panel Cartref mewn unrhyw drefn, ychwanegu, cuddio neu eu dileu, er mwyn cadw'ch ffefrynnau'n agos.
Dysgu rhagor
Ychwanegu unrhyw beiriant chwilio yn ôl eich dewis chi. Neu ei newid ar unrhyw adeg i'r un sy'n cyd-fynd a'ch angen chwilio â phreifatrwydd.
Gweld sut mae'n gweithio
Mwynhau profiad darllen gwell gyda'r Golwg Darllenydd a'r Rhestr Ddarllen. Cael mynediad i'ch erthyglau cadw hyd yn oed pan nad ydych ar-lein.
Dysgu rhagor am y Rhestr Ddarllen
Newidiwch iaith eich porwr yn sydyn a hawdd, heb orfod newid y gosodiadau ar eich dyfais gyfan nac ailgychwyn eich porwr.
Dysgu rhagor
Anfonwch fideo a chynnwys Gwe o'ch ffôn clyfar neu dabled i unrhyw deledu sydd â'r gallu i ffrydio cynnwys.
Dysgu rhagor
Rydym yn credu fod eich manylion personol yn perthyn i chi. Mae Firefox Android yn llawn nodweddion sy'n ei gadw felly.
Porwch heb fod eich hanes, chwilio na'ch cwcis yn cael eu cadw a rhwystro trydydd parti cudd rhag eich dilyn ar draws y we.
Dysgu rhagor am Bori PreifatDileu eich hanes pori, cyfrineiriau a rhagor mewn un tap. Dewis y data preifat rydych am ei dynnu, pan fydd angen.
Dysgu sut i glirio eich hanesRhannwch eich porwr gyda ffrindiau a theulu heb boeni y byddwch yn gweld gweithgarwch ar-lein eich gilydd.
Dysgu sut i rannu eich porwrEwch â'ch cyfrineiriau, nodau tudalen, tabiau agored a rhagor gyda chi i bob man. Defnyddiwch Sync ar eich ffôn symudol neu dabled i gael mynediad at beth bynnag sydd ei angen ar eich bwrdd gwaith — ac fel arall — heb orfod cofio URLau.
Dysgu rhagor am Sync