Mae'n edrych fel eich bod yn defnyddio hen fersiwn o Firefox.

Dim ond ar y fersiwn diweddaraf o Firefox mae Sync y gweithio

Mae Sync yn un o'r nodweddion arbennig sydd ar gael dim ond ar Firefox.

Nawr cydweddwch Firefox gyda'ch dyfeisiau iOS ac Android.

Efallai nad yw eich system yn cwrdd â gofynion Firefox, ond mae modd i chi brofi un o'r rhain:

Nid yw eich system yn cyrraedd y gofynion i redeg Firefox.

Nid yw eich system yn cyrraedd y gofynion i redeg Firefox.

Please follow these instructions to install Firefox.

Preifatrwydd Firefox

Cychwyn gyda Sync mewn pedwar cam hawdd:

  1. Agorwch y ddewislen ar frig de Firefox a dewis “Mewngofnodi i Sync.
  2. Cliciwch “Cychwyn arni” yn y tab sy'n agor.
  3. Rhowch gyfeiriad e-bost a chyfrinair i “Greu Cyfrif Firefox.
  4. Cliciwch “Nesaf” i'r dilysiad gael ei anfon atoch.

Ar ôl gwirio eich e-bost a chlicio'r ddolen dilysu, byddwch yn barod! Bydd Firefox yn cydweddu'n awtomatig yn y cefndir o hynny ymlaen.

Sut mae cychwyn Sync mewn pum cam hawdd:

  1. Tapio botwm Dewislen (un ai ar waelod y sgrin neu ar frig de'r porwr).
  2. Dewiswch Gosodiadau (efallai bydd angen tapio Rhagor yn gyntaf).
  3. Tapiwch Syncac yna Cychwyn Arni.
  4. Bydd y dudalen Creu Cyfrif Firefox yn agor mewn tab newydd.
  5. Llenwch y ffurflen a chlicio Nesaf.

Ar ôl edrych ar eich e-bost a chlicio'r ddolen dilysu, byddwch yn barod i fynd! Peidiwch anghofio i gysylltu eich holl ddyfeisiau eraill i gael y mwyaf o Sync.

Cydweddu ychydig. Cydweddu llawer.

Gallwch ddewis pa rannau o Firefox i'w cydweddu a lle fyddwch am eu cydweddu. Cymrwch eich tabiau agored ar eich taith i'r gwaith bob dydd. Defnyddiwch eich nodau tudalen yn y gwaith. Beth bynnag, pryd bynnag, lle bynnag.

Adref

Symudwch o'ch desg i'r soffa'n ddi-lol. Darllenwch eich tabiau agored ar eich ffôn clyfar neu cadwch i bori eich nodau tudalen ar eich tabled.

Yn y gwaith

Cadwch mewn cysylltiad â'ch gwybodaeth bwysig i gyd. Cydweddwch y cyfrineiriau a'r nodau tudalen efallai y bydd eu hangen arnoch chi. Fel Firefox, mae'n gwbl ddiogel.

Wrth fynd

Cadw i fyny gyda'ch hoff wefannau neu orffen stori roeddech ar ei chanol — lle bynnag yr ewch. Gyda Sync, mae'n hawdd.

Cael Firefox ymhob man

Estynnwch o Google Play Llwythwch i lawr o'r App Store