Mae'r Mozilla Foundation dim-er-elw yn credu y dylai'r rhyngrwyd barhau i fod yn adnodd chyhoeddus sy'n agored ac ar gael i bawb. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan y Maniffesto Mozilla.
Mae gwaith uniongyrchol y Mozilla Foundation yn canolbwyntio ar rymuso'r symudiad ar gyfer rhyngrwyd agored. Rydym yn gwneud hyn drwy gysylltu arweinyddion Rhyngrwyd agored a'i gilydd a drwy annog gweithredwyr uniongyrchol o amgylch y byd.
Y Foundation hefyd yw unig gyfranddaliwr y Mozilla Corporation, sy'n creu Firefox ac offer cod agored eraill. Mae'r Mozilla Corporation yn gweithredu fel menter gymdeithasol hunan cynhaliol – mae arian sy'n cael ei ennill drwy'r cynnyrch yn cael ei ail-fuddsoddi i'r corff.
Darllenwch Strategaeth 2016-2018 y Mozilla Foundation
Rhaglenni'r Foundation
Gan weithio gyda phobl a chymunedau ar draws Mozilla, mae tîm y Foundation yn canolbwyntio ar annog mudiad y Rhyngrwyd agored. Mae ein rhaglenni'n canolbwyntio ar dri maes:
Siapio'r Agenda
Mae Mozilla wedi adnabod pum prif fater sy'n hanfodol er mwyn adeiladu'r rhyngrwyd agored rydym ei eisiau:
- Preifatrwydd a Diogelwch
- Arloesi Agored
- Datganoli
- Llythrenedd Gwe
- Cynhwysiad Digidol
Cysylltu Arweinyddion
Mae ein Mozilla Leadership Network yn canfod, cysylltu a darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer cenhedlaeth newydd o arweinyddion fydd yn sicrhau'r don nesaf o fynediad, cynhwysiad a chyfleoedd ar-lein.
Crynhoi dinasyddion
Mae Mozilla'n cydweithio gyda chynghreiriaid i ddatblygu corff byd eang o filiynau o bobl sy'n barod i gefnogi hawliau dinasyddion y we.
Cynnyrch a Thechnoleg
Mae'r Mozilla Corporation, is gwmni sy'n eiddo'r Foundation, yn creu cynnyrch Rhyngrwyd defnyddwyr sy'n hyrwyddo'r un gwerthoedd ag sy'n cael eu hamlinellu yn y Mozilla Manifesto.
Mae Firefox, ein prif raglen , yn rhoi dewis, preifatrwydd a diogelwch uwch i gannoedd o filiynau o bobl o amgylch y byd. Mae ymdrechion archwilio cynnyrch fel ein rhaglen ‘dyfeisiadau cysylltiedig’ yr anelu i ddod â mwy o gynnyrch sy'n cynnal gwerthoedd Mozilla i'r byd. Mae ymdrechon technolegol fel Rust a chanolfan gemau Mozilla'n anelu i daenu ffordd newydd o feddwl am dechnoleg agored ar draws holl ddiwydiant y Rhyngrwyd.
Cymuned Mozilla
Daw grym go iawn Mozilla o'r gymuned fyd-eang o ddegau o filoedd o wirfoddolwyr, cynghreiriaid a phartneriaid. Mae aelodau o gymuned Mozilla'n cymryd rhan drwy wneud popeth o gyfrannu cod i Firefox ac addysgu llythrenedd gwe i gyfieithu ein meddalwedd, trefnu ymgyrchoedd eiriolaeth ac darparu'r gwefan datblygwyr gwe mwyaf ei defnydd.
Ymunwch
Ymunwch â ni a helpwch i ddiogelu'r rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus a byd-eang. I gychwyn ymunwch â'n cymuned neu gwnewch gyfraniad.