Ar ôl mewngofnodi rydych yn barod i gael mynediad i'ch Firefox chi yn unrhyw le ac ar unrhyw bryd.
Cydweddwch eich ffôn pryd bynnag rydych yn ei ddefnyddio i gael mynediad i'ch nodau tudalen, cyfrineiriau, tabiau a rhagor, o unrhyw ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur.
Mae'n edrych fel eich bod yn defnyddio hen fersiwn o Firefox.
Dim ond ar y fersiwn diweddaraf o Firefox mae Sync y gweithio
Mae Sync yn un o'r nodweddion arbennig sydd ar gael dim ond ar Firefox.
Ar ôl gwirio eich e-bost a chlicio'r ddolen dilysu, byddwch yn barod! Bydd Firefox yn cydweddu'n awtomatig yn y cefndir o hynny ymlaen.
Ar ôl edrych ar eich e-bost a chlicio'r ddolen dilysu, byddwch yn barod i fynd! Peidiwch anghofio i gysylltu eich holl ddyfeisiau eraill i gael y mwyaf o Sync.
Gallwch ddewis pa rannau o Firefox i'w cydweddu a lle fyddwch am eu cydweddu. Cymrwch eich tabiau agored ar eich taith i'r gwaith bob dydd. Defnyddiwch eich nodau tudalen yn y gwaith. Beth bynnag, pryd bynnag, lle bynnag.
Symudwch o'ch desg i'r soffa'n ddi-lol. Darllenwch eich tabiau agored ar eich ffôn clyfar neu cadwch i bori eich nodau tudalen ar eich tabled.
Cadwch mewn cysylltiad â'ch gwybodaeth bwysig i gyd. Cydweddwch y cyfrineiriau a'r nodau tudalen efallai y bydd eu hangen arnoch chi. Fel Firefox, mae'n gwbl ddiogel.
Cadw i fyny gyda'ch hoff wefannau neu orffen stori roeddech ar ei chanol — lle bynnag yr ewch. Gyda Sync, mae'n hawdd.