Mae’r ‘National Archives’ yn ymroddedig i wneud ei wefannau mor hygyrch ag sy’n bosibl i ddefnyddwyr gyda nam ar eu golwg, clyw, gallu i symud neu wybyddol. Mae’r wefan yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.0
Mae legislation.gov.uk yn cynnig ffyrdd gwahanol o weld deddfwriaeth:
- Y darn cyfan – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1990/18
- Ar lefel rhannau – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2010/26/part/1
- Ar lefel adran neu ddarpariaeth – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1998/29/section/4
- Ar lefel atodlen – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2000/36/schedule/2
Mae’r nodweddion uwch yn cynnwys:
- Gweld graddfa ddaearyddol – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2006/3/introduction?view=extent
- Gweld llinell amser o newidiadau – e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1985/67/section/6?view=extent&timeline=true
Mae rhai o’r gweddau yma yn cadw yn nes at ganllawiau WCAG nag eraill. Gellir gweld y wedd fwyaf hygyrch trwy’r dewis ‘Gwedd blaen’. e.e. http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1996/40/section/1?view=plain
Mae mwyafrif llethol y ddeddfwriaeth a welir gan ddefnyddio’r ‘Wedd blaen’ yn cydymffurfio â lefel AA WCAG 2.0. Gall rhai tudalennau fod heb ychydig o wybodaeth ychwanegol, fel testun gwahanol i rai delweddau. Mae mân broblemau hefyd gyda rhai tablau cymhleth.
Defnyddir y dechnoleg ganlynol ar www.legislation.gov.uk:
- XHTML + RDFa
- CSS
- JavaScript
Gellir defnyddio’r safle gyda JavaScript neu CSS wedi eu galluogi.
Yn ychwanegol mae gwasanaethau sy’n defnyddio’r technolegau canlynol yn cael eu darparu gan www.legislation.gov.uk:
- Porthiant Atom
Gall deddfwriaeth hefyd fod ar gael mewn Braille, os gofynnir amdano. Gellir cael copïau Braille gan customer.services@tso.co.uk neu ffoniwch +44 (0)8706005522.
Maint y testun
Os byddwch yn gweld bod testun y safle hwn yn rhy fach neu fawr, gallwch ei newid trwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr. Y maint diofyn i’r rhan fwyaf o borwyr yw “100%”. Isod mae dolenni at gyfarwyddiadau ar gyfer newid maint y testun ar gyfer rhai porwyr cyffredin:
Byddem yn hoffi i chi gysylltu â ni os cawsoch drafferth gyda maint y testun ar y wefan hon. Ebostiwch legislation@nationalarchives.gov.uk gan ddweud wrthym pa borwr a system weithredu sydd gennych, pa fath o ddyfais a ddefnyddir gennych a beth yw maint y testun a ddewiswyd gennych.
Javascript
Mae’r safle hwn yn defnyddio javascript ar gyfer rhai swyddogaethau, fel arddangos awgrymiadau ochr yn ochr â’r eicon ‘?’ ac i arddangos negeseuon rhybudd yng nghanol y sgrin ar ôl clicio ar ddolen i dudalen fawr o ran cynnwys. Os yw JavaScript wedi ei analluogi ar eich porwr, rydym wedi darparu fersiwn ‘dim-Javascript’ o’r dudalen sydd yn dal i’ch galluogi i weld y cynnwys.
Nid oes raid cael JavaScript i weld a chael mynediad at unrhyw ddeddfwriaeth ar y safle hwn
Dyddiad yr honiad cydymffurfio: 30 Mehefin 2011