Newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth a ddeddfwyd o 2002 hyd heddiw
Mae’r ffurflen chwilio isod yn rhoi mynediad at restri yn rhoi manylion newidiadau a wnaed gan yr holl ddeddfwriaeth sydd wedi ei deddfu o 2002 hyd heddiw i’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar legislation.gov.uk. Mae newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth a ddeddfwyd cyn 2002 eisoes wedi eu hymgorffori yn y cynnwys ac nid ydynt ar gael fel rhestri chwiliadwy. Mae’r rhestri yma yn rhoi manylion am newidiadau gan gynnwys diddymu, diwygio ac effeithiau eraill (e.e. addasiadau a gwybodaeth am ddechrau).
Diweddarir y rhestri gyda’r newidiadau a wneir gan ddeddfwriaeth newydd cyn gynted ag y mae modd ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei derbyn gan dîm golygyddol legislation.gov.uk. Ond, fel arfer bydd rhywfaint o oedi rhwng cyhoeddi deddfwriaeth newydd ar y wefan ac i’r effeithiau ymddangos yn y tablau hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yr oedi yn fwy na dwy wythnos.
Sylwer: Pan na fydd newidiadau ac effeithiau wedi cael eu gweithredu i’r ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni ar y safle hwn gan dîm golygyddol legislation.gov.uk yna mae’r ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’ hefyd yn cael eu dangos ochr yn ochr â chynnwys y ddeddfwriaeth ar lefel darparu.
Chwilio
Newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol
Mae’r Tablau Cronolegol yn rhestru newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol yn dyddio o 1797 hyd 2008. Maent yn cael eu diweddaru yn flynyddol ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r tablau yn rhestru Deddfau Lleol, Preifat a Phersonol yn eu trefn gronolegol ynghyd â manylion am ddiddymiadau a newidiadau (gan gynnwys cywiriadau ac amnewidiadau) a wnaed i’r Deddfau hynny. Maent wedi cael eu cyhoeddi mewn rhannau er mwyn eu gwneud yn haws i’w defnyddio.